Rheolwr Marchnata ar gyfer Erasmus+ - Ymgyrchoedd a Sianeli
Date: 10 Aug 2026
Location: Cardiff, UKM, GB
Company: British Council
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.
Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.
Teitl y Rôl:
Rheolwr Marchnata ar gyfer Erasmus+ - Ymgyrchoedd a Sianeli 48539
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.
Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.
Band Cyflog: Gradd 7
Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)
Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad
Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin
Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.
Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)
Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.
Pwrpas y Rôl:
Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o gynllunio, cyflwyno, a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ymgyrchoedd marchnata taledig ac aml-sianel, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn effeithiol, a throsi diddordeb yn weithredu (conversion). Byddant yn gyfrifol am reoli sianeli, buddsoddi mewn cyfryngau a pherfformiad ymgyrchoedd a gweithgareddau i sicrhau’r effaith farchnata ac enillion ar fuddsoddiad gorau posibl. Byddant yn datblygu cynnwys penodol ar gyfer gwahanol sianeli a chefnogi gwaith hyrwyddo ac ehangu digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Byddant yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i benderfyniadau ar sail data perfformiad, gan gynnwys pennu cyllidebau, targedu, ac addasu’n greadigol. Byddant yn gyfrifol am berfformiad sianeli, cymhwyso dulliau profi (e.e. profion A/B), a pherfformiad ymgyrchoedd taledig.
Prif Gyfrifoldebau:
- Rheoli a gwerthuso cynlluniau ymgyrchoedd marchnata aml-sianel cyson y gellir eu hefelychu ar gyfer gweithgareddau rhaglenni a sectorau.
- Sicrhau bod ymgyrchoedd yn gymesur â blaenoriaethau, maint, a chwmpas prosiectau; ac yn seiliedig ar ddata, yn gyson â’r strategaeth, ac yn gynaliadwy.
- Cynllunio, cyflwyno, a chyflawni, a sicrhau’r canlyniadau gorau o ymgyrchoedd marchnata taledig ac aml-sianel.
- Glynu wrth ganllawiau a pholisi ar gyfer defnyddio asiantaethau a thrydydd partïon mewn ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau cyfathrebu.
- Gweithio gyda thimau mewnol ac asiantaethau allanol i gyflawni gweithgareddau ymgyrchoedd yn unol â'r amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.
- Darparu briffiau clir a rheoli ansawdd allbynnau, gan wirio bod canllawiau brand a marchnata moesegol yn cael eu dilyn.
- Gweithio ar y cyd ar draws swyddogaeth farchnata Erasmus+, gan gyfrannu at amcanion cyffredin a chefnogi’r ddarpariaeth ar draws ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau marchnata â blaenoriaeth yn ôl y gofyn, i fodloni anghenion y rhaglen a gofynion sefydliadol.
- Gweithio a meithrin cysylltiadau gyda thîm Awtomeiddio Marchnata’r British Council.
- Hyrwyddo a hybu arferion gorau marchnata drwy’r Gymuned Ymarfer Marchnata fyd-eang a'r rhwydwaith rhyngwladol o weithwyr marchnata proffesiynol.
- Nodi ac argymell cyfleoedd gwelliant parhaus mewn modd rhagweithiol drwy feithrin gwybodaeth am raglen a blaenoriaethau Erasmus+, defnyddio mewnwelediad a data perfformiad, a chadw llygaid rhagweithiol ar y datblygiadau diweddaraf yn eich maes marchnata.
- Cyfrannu at ddadansoddi cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd i gryfhau’r gwaith o lywio'r strategaeth farchnata a'r portffolio byd-eang ehangach.
Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:
Hanfodol
- Profiad o gyflawni ymgyrchoedd marchnata taledig ar draws gwahanol sianeli digidol
- Profiad o reoli perfformiad a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ymgyrchoedd
- Profiad o ddefnyddio data a dadansoddeg i lywio penderfyniadau marchnata
- Profiad o weithio gyda thimau mewnol ac asiantaethau allanol
- Profiad o baratoi a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau
- Profiad o ddefnyddio offerynnau dadansoddeg ac adrodd
Dymunol
- Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol
- Profiad mewn sefydliad byd-eang neu ryngwladol
- Profiad o reoli prosiect a/neu ddefnyddio offerynnau rheoli prosiect
- Profiad o gomisiynu cynnwys
- Profiad o gefnogi gwaith cyflawni digwyddiadau a chynnal gweminarau
- Profiad o reoli llinell
- Cymhwyster ôl-raddedig neu radd meistr mewn busnes neu farchnata
Gofynion Penodol
- Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos
Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad
Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.
Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Datganiad Diogelu
Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989.
Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org